Syth i'r cynnwys

Prynu Safle Ffatri Gaws Dyffryn Aeron

Dydd Mawrth, Mai 26, 2009: Cafwyd hwb economaidd sylweddol i ganol Ceredigion heddiw wrth i gwmni lleol gyhoeddi ei fod wedi prynu ffatri gaws Aeron Valley Cheese wnaeth gau ym mis Mawrth 2007.

Bwriad cwmni D. Jenkins a’i fab yw rhannu’r safle yn unedau llai o faint, a chydweithio gyda Gweithgor Dyffryn Aeron i ddenu busnesau i’r safle. Yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer o gwmnïau wedi dangos diddordeb mewn adleoli a datblygu ar y safle. Nawr fod y pryniant wedi’i gwblhau mae sicrwydd y bydd yr hen ffatri gaws yn ganolfan gynhyrchu a chyflogaeth unwaith eto yn y dyfodol agos.

      ffatri_ddyffryn_aeronllai 

Daw’r newyddion wedi gwaith ymchwil manwl gan Weithgor Dyffryn Aeron i ddatblygu cynllun busnes newydd ar gyfer safle Aeron Valley Cheese, a thrafodaethau rhwng y grŵp a nifer o gwmnïau sydd â diddordeb mewn ehangu yn Nyffryn Aeron. Cafodd y gwaith hwn gefnogaeth Llywodraeth Cymru’n Un, ac yn eu tro mae Elin Jones (y Gweinidog Cefn Gwlad), a Ieuan Wyn Jones (Dirprwy Brif Weinidog Cymru) wedi ymweld â Dyffryn Aeron i glywed a chefnogi syniadau’r Gweithgor.

Dywedodd Huw McConochie, Cadeirydd Gweithgor Dyffryn Aeron:

Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gael cyd-weithio gyda chwmni Donald Jenkins a’i fab i ddatblygu gwaith ar y safle. Mae Brian Jenkins yn aelod o  Weithgor Dyffryn Aeron, ac mae ganddo ef a chyfarwyddwyr y Gweithgor syniadau cyffrous iawn am sut allwn ni symud ymlaen gyda’n gilydd, a helpu ein gilydd i greu swyddi newydd yn yr ardal.

Stori ar: Golwg 360 | BBC Cymru'r Byd | BBC Where I Live

Press Release: local business buys Aeron Valley Cheese site

Datganiad i'r wasg: busnes lleol yn prynu safle Ffatri Gaws Dyffryn Aeron