Syth i'r cynnwys

Cartref arrow Diweddar
Diweddar PDF Argraffu Ebost

Gweithgor Dyffryn Aeron yn Croesawu Cyhoeddiad Dairygold

Mae cyhoeddiad Ieuan Wyn Jones fod Cwmni Dairygold wedi cytuno i ad-dalu swm o £600,000 oedd yn ddyledus ganddynt i Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael ei groesawu'n fawr gan Weithgor Dyffryn Aeron. Daw'r newyddion wedi brwydr hir gan y gymuned leol am gyfiawnder yn dilyn cau ffatri bacio caws Dairygold yn Ebrill 2006, a symud peiriannau dalwyd amdanyn nhw ag arian cyhoeddus oddi yno. Darllen mwy | Datganiad i'r Wasg Dairygold

Dau Weinidog yn Nyffryn Aeron

Ar Dachwedd 8, 2007 daeth Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, a'r Gweinidog Cefn Gwlad, Elin Jones i Theatr Felin-fach i gwrdd ag aelodau Gweithgor Dyffryn Aeron a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion. Pwrpas y cyfarfod oedd trafod datblygu swyddi cynaliadwy yn yr ardal, a cheisio sicrhau perchnogaeth leol o asedau.

Cliciwch ar y ddolen i gael yr hanes yn llawn | Click here for the story on BBC Wales Online.