Cefndir | Cefndir |
|
|
|
|
Sefydlwyd Gweithgor Dyffryn Aeron wedi cyfarfod argyfwng yn Theatr Felin-fach ar Fawrth 20fed, 2007. Yr enw roddwyd i'r cyfarfod hwnnw oedd DWY FFATRI, UN GYMUNED, ac fe'i trefnwyd gan Grŵp Ymgyrchu Dairygold fel ymateb i golli dros 160 o swyddi yn sgîl cau ffatrioedd Dairygold ac Aeron Valley Cheese. Mae'r Gweithgor wedi cyfarfod bob rhyw 3 wythnos ers mis Mawrth 2007, ac wedi datblygu agenda cadarnhaol ar gyfer creu gwaith cynaliadwy yn Nyffryn Aeron. Mae aelodaeth y Gweithgor yn amrywio o gynhyrchwyr llaeth, aelodau o gwmniau prosesu, undebau amaethyddol, cyn-weithwyr Dairygold ac Aeron Valley Cheese, cynghorwyr a swyddogion Cyngor Sir Ceredigion, ymgynghorwyr annibynnol, ac arbenigwyr yn y diwydiant cynhyrchu a phrosesu llaeth. Cyhoeddodd Gweithgor Dyffryn Aeron agenda radical yn ystod Gorffennaf 2007 ar gyfer datblygu safle Aeron Valley Cheese a sicrhau perchnogaeth leol o asedau yn Nyffryn Aeron.
Ar Fedi 18, 2007 corfforwyd Gweithgor Dyffryn Aeron Cyf. fel cwmni dim
am elw gyda'r nod o chwilio am arian datblygu ar gyfer creu swyddi yn
Nyffryn Aeron. Rhif y Cwmni yw 6374479. |