Syth i'r cynnwys

Gweithgor Dyffryn Aeron
gweithgor3    

DWE Consulting

David Edwards a Gareth Evans o gwmni DWE Consulting yn paratoi i gychwyn ar y gwaith o asesu cyflwr adeiladau Aeron Valley Cheese, ffatri a fu'n wag ers blwyddyn a deufis bellach ac sy'n ganolbwynt i ymdrech Gweithgor Dyffryn Aeron i ddod a gwaith newydd i gefn gwlad Ceredigion. Mi fydd DWE yn cyflwyno adroddiad ar y posibiliadau o greu busnes newydd dan reolaeth leol gerbron y Gweithgor yn ystod mis Gorffennaf.

Gweithgor Dyffryn Aeron yn Croesawu Cyhoeddiad Dairygold

Mae cyhoeddiad Ieuan Wyn Jones fod Cwmni Dairygold wedi cytuno i ad-dalu swm o £600,000 oedd yn ddyledus ganddynt i Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael ei groesawu'n fawr gan Weithgor Dyffryn Aeron. Daw'r newyddion wedi brwydr hir gan y gymuned leol am gyfiawnder yn dilyn cau ffatri bacio caws Dairygold yn Ebrill 2006, a symud peiriannau dalwyd amdanyn nhw ag arian cyhoeddus oddi yno. Darllen mwy | Datganiad i'r Wasg Dairygold