Sefydlwyd Gweithgor Dyffryn Aeron wedi cyfarfod argyfwng yn Theatr Felin-fach ar Fawrth 20fed, 2007. Yr enw roddwyd i’r cyfarfod hwnnw oedd DWY FFATRI, UN GYMUNED, ac fe’i trefnwyd gan Grŵp Ymgyrchu Dairygold fel ymateb i golli dros 160 o swyddi yn sgîl cau ffatrioedd Dairygold ac Aeron Valley Cheese.
Mae’r Gweithgor wedi cyfarfod yn gyson ers mis Mawrth 2007, ac wedi datblygu agenda cadarnhaol ar gyfer creu gwaith cynaliadwy yn Nyffryn Aeron. Mae aelodaeth y Gweithgor yn amrywio o gynhyrchwyr llaeth, aelodau o gwmniau prosesu, undebau amaethyddol, cyn-weithwyr Dairygold ac Aeron Valley Cheese, cynghorwyr a swyddogion Cyngor Sir Ceredigion, ymgynghorwyr annibynnol, ac arbenigwyr yn y diwydiant cynhyrchu a phrosesu llaeth.
Cyhoeddodd Gweithgor Dyffryn Aeron agenda radical yn ystod Gorffennaf 2007 ar gyfer datblygu safle Aeron Valley Cheese a sicrhau perchnogaeth leol o asedau yn Nyffryn Aeron.
Ar Fedi 18, 2007 corfforwyd Gweithgor Dyffryn Aeron Cyf. fel cwmni dim am elw gyda’r nod o chwilio am arian datblygu ar gyfer creu swyddi yn Nyffryn Aeron.

